IMDb
Be di 'sequel' yn Gymraeg? Wel ma hon yn sequel i'r ffilm wych o Seland Newydd, Once Were Warriors. Do ni'm yn disgwyl rhyw lawer cyn i gweld hi ond mi odd hi'n dda i weld bod yna lot o'r cast gwreiddiol yn y ffilm. Dodd hi ddim cystal a'r ffilm gynta, dodd hi ddim cweit mor bwerus a mi odd na lot llai o Jake the Muss(Temuera Morrison) yn pwno pobol, piti i ddweud y gwir. Pan o'n i yn y chweched dosbarth mi odd Once Were Warriors yn un o'r ffilmie cultish na odd yn ffefryn 'da fi a'n ffrindie, dwi'n siwr taw Shortland Street oedd a'r bai i ddweud y gwir gan taw 'Shorters' ddath a Temuera Morrison i'r byd. Dwi hefyd yn cofio mynd i weld Lord of the Rings yn y sinema a gweiddi allan "Oh, my God he/she/that/it's on Shortland Street". Wel dwi'n siwr bod y mwyafrif o actorion Seland Newydd di bod yn LoTR ar rhwy adeg. Nol at y ffilm, dwi'm am ddweud gormod am y stori rhag ych bod chi isie i gweld hi ar rhyw adeg, ma hi'n lot fwy ysgafn na'r gynta, ma na hiwmor yn y stori. Ma na lai o drais ac ymladd er bod yna beth yn bresennol a dyw'r pwyslais ar draddodiad y Maouri ddim yna o gwbwl. Werth i gweld yn enwedig os ych chi'n ffan o'r gwreiddiol.
Subscribe to:
Post Comments (Atom)
No comments:
Post a Comment