20/07/2007

Y Lleill

Dechrau rant.

Mi o ni'n hollol nacyrd ddoe(mi oedd yn lyged bach i'n dechrau cau am hanner di naw) ond mi wnes i'n siwr y mod i ar ddihun i wylio Y Lleill ar S4C digidol gan fod ffilmiau Cymraeg mor brin. Mi o ni'n reit gyffrous yn disgwyl hon, ond do ni'm yn disgwyl gweld campwaith wedi darllen yr amryw adolygiadau ar y we.

Siom ges i.

Dwi'm am ladd ar y ffilm yn gyfangwbl, does dim pwynt gwneud hynny, ma'n rhaid cael rhyw fath o feirniadaeth adeiladol. Dwy brif gwyn sydd gen i. Y gynta yw'r dechneg.

Ffotograffiaeth.
Fel ffotograffydd ma ffilm sydd a ffotograffiaeth dda yn fy nal bob tro, mi oedd hon yn andros o wael. Mond llond dwrn o shots llydan oedd i'r ffilm i gyd. Os ych chi am ddefnyddio Blaenau Ffestiniog a'r llwydni fel rhan o'r ffilm wel gwnewch y gore y gallwch chi. Mi oedd na un olygfa sinematig hyfryd wrth i brif ganwr y band gerdded o'r chwarel lawr tuag at y dre, heblaw am hon does na ddim unrhywbeth arall yn sefyll allan. Dwi'n dweud celwydd, ma'r tracking shots uffernol drwy'r ffens metal ar y dechrau yn aros yn y cof, ond am y rhesyme anghywir.

Actio.
Da gweld llwyth o wynebau newydd ond ma'n rhaid ar dalent i actio'n naturiol. Yn anffodus mi oedd y gwaith bach yn llafurus ar ddeialog yn annaturiol. Ai ond fi oedd yn meddwl 'Be ffwc?' wedi'r ddadl ynghlyn a'r iaith yn y dafarn rhwng tri aelod Cymuned(?). Man a man i bod nhw'n darllen i llinellau.

Stori/Sgript.
Beth yn union oedd pwrpas y ffilm? Mi oedd hi'n gymysglyd tost, y stori dros y lle i gyd ac i fod yn onest erbyn tua 20munund i fewn i'r ffilm mi o ni di diflasu. Mi oedd yna elfennau da i'r sgript ond mi oedd angen gwaith, tase hon yn ffilm fasnachol mi fuase yna waith datblygu mawr cyn iddi ddod i'r sgrin.

Y Teitlau.
A gafodd rhain ei cynhyrchu ar BBC Micro? Dwi'n gallu deall pam y defnyddir teitlau syml, ma rhai Woody Allen bob tro'n effeithiol a chwaethus ond wir mi oedd rhain yn waith pum munud ar y cyfrifiadur.

Ail gwyn (ac i fod yn onest cwyn am ffilm yng Nghymru yw hon yn fwy na dim).

$4C
Gyda prinder mawr o ffilmiau Cymraeg ma na ddisgwyl bod y rhai sydd yn cael ei cynhyrchu o'r radd flaena. I fod yn hollol onest, doedd y ffilm yma ddim yn ddigon da. Fel arianydd ma dyletswydd ar S4C i lywio cynhyrchiad, y nhw wedi'r cwbl sydd รข'r gair ola. Y nhw ddylse wedi mynnu gwaith ar y sgript, fel Cynhyrchwyr Gweithredol(Exec Prod) ma na ddyletswydd i bwyso ar y cynhyrchiad, ma'n siwr ei bod yn gweld y rushes felly ma modd cael syniad o beth fydd ffilm yn y diwedd. Ond y mhrif gwyn i yw pam taw hon oedd y sgript gaeth ei dewis i'w gwneud? Ma ffilmiau yn y Gymraeg yn bethau prin, mi o ni o dan yr argraff taw cyllid oedd y rheswm am hynny ond dwi'n dechrau meddwl taw storiau sy'n brin. Ai hon oedd y sgript orau oedd gan S4C yn ei thyrau eifory? Oes rhaid cael ffilm am y SRG? Am yr iaith a phiwritaniaid yr iaith? Ry ni'n gynulledifa aeddfed, beth am storiau diddorol am y natur ddynol? Ma pob cenedl arall yn y byd yn medru cynhyrchu ffilmiau o'r fath. Ry ni'n rhy fewnblyg, ma'n rhaid cynhyrchu storiau diddorol am bobol (cariad,colled,twyll,trasiedi a.y.y.b.) yn yr iaith Gymraeg nid am yr iaith Gymraeg. Ma na fodd i ffilm lwyddiannus Gymraeg gael ei gweld drwy'r byd ond mi wneuth hyn byth ddigwydd heb storiau da.

Dwi di diflasu ar rantio erbyn hyn. Digon di ddweud nawr, dwi ddim yn gwningen hapus.

Diwedd rant.

09/07/2007

Y Parchedig Gary Wise.

Ma'n neis i weld dau sylw ar y postyn bach diwetha, ma'n profi bod na bobol mas wedi i fi fod yn y diffeithwch am gy-hyd.

Meddwl nodi blog bach newydd o ni heddi, ma ffrind da i mi wedi dechrau ar gwrs newydd animeiddio gyda Cyfle a ma fe di cael ei lusgo i mewn i'r ganrif newydd a di dechrau blog. Fe gyflwynir i chi y Parchedig Gary Wise (ma fe di ei ordeinio gan yr Universal Life Church).

29/06/2007

Oes na bobol?

Dwi di bod yn dawel ers amser maith, ond bore 'ma mi benderfynes i rhoi shot fach arall ar y blogio.

Mi weles i linc bach da ar flog Zuzula. Ymddengys fy mod yn...

D-List Blogger