29/09/2005
Llunden, amser braf am change.
Fues i Lunden penwythnos diwetha, dwi'm yn un sy'n or hoff o'r ddinas fawr - gormod o bobol, pawb yn rhy frysiog a neb yn siarad â'i gilydd. Ond, ges i benwythnos reit ddifyr. Fues i a nghariad i weld Belle & Sebastian nos Sul yn y Barbican. Cyngherdd hollol wych, ma'r erthygl o'r Guardian yn spot on.
Gyda'r beudy'n dod yn i flaen fuon ni'n trampio rownd Llunden i bob siôp dosbarth canol oedd yn gwerthu nwydde i'r tŷ - Habitat, Heal's, Purves & Purves a'r Conran Shop. Brynes i ddim byd diolch byth. Trip i farchnad ffermwyr Chelsea, wyau Organig o Aberystwyth yn £4.48 y dwsin!
Wedi mynd am wac rownd marchnad gig Smithfield fe aethon ni am frecwast i fwyty John Torode Smiths of Smithfield(bwyd afiach), ac yna elevenses o fwyty GWYCH Fergus Henderson, St John a chinio hwyr mewn bwyty gwych arall, Maggie Jones's. Fuon ni am drip i siôp Sally Clarke's ac i fewn i fwyty Bibendum i weld y ffenestri lliw hyfryd. Yr unig beth brynes drwy gydol y penwythnos (heblaw am y mwyd) oedd copi o lyfr coginio Fergus Henderson - Nose to Tail Eating, ma fe'n werth i gael, ryseitie lled draddodiadol Brydeinig (dwi di dilyn i rysait e i biclo shallots yn barod), y pryd mwya enwog sydd ar i fwydlen e yw 'Roast Bone Marrow and Parsley Salad' a ma fe'n enwog am ddefnyddio offal fel un o'i brif gynhwysion. Gobeithio gaf i'r pleser o gael pryd cyfan y tro nesa dwi yn Llundain.
Cân y Jac Codi Baw.
Cân y Jac Codi Baw
Newydd ddod ar draws darn bach gwych o animeiddio - rhyw fideo cerddoriaeth i gân Jac Codi Baw. Ma'r awdur/animeiddiwr di gwneud cwpwl arall dwi di gweld yn y gorffennol, y gore o bell ffordd yw i fersiwn e o Creep gan Radiohead. Rhywbeth bach perffaith i godi calon ar ddiwrnod araf yn y gweithle.
20/09/2005
Celfyddyd Gain
Dwi di bod mas amser cinio yn gwario mwy o'n arian prin i ar stwff dos dim rhaid i fi gael ond mi o ni isie. Dwi di prynu darlun gan Beth Marsden, artist ifanc o Dregaron, fe weles i gwaith hi am y tro cynta rhyw flwyddyn a hanner yn ôl mewn arddangosfa yng Ngholeg Sir Gâr. Ma hi'n dod o deulu talentog eithriadol, dwi bron a phrynu paentiad gan i thad fwy nag unweth - ma gwefan newydd da'r teulu yma, ond dyw e'm di cwpla. Diolch byth am gynllun cyngor y celfyddydau - Collectorplan sy'n cynnig cynllun i dalu dros ddeng mis am ddarne celfyddydol heb log. Dwi'n sgint nawr am y deg mis nesa, ond ma fe e werth e, teitl y darn yw Red Head.
A rhywbeth bach ysgafn am bnawn Mawrth diflas, gwefan Beedogs.
08/09/2005
Malls of America
Malls of America
Newydd ddod ar draws blog - Malls of America, 'casgliad o lunie o'r malls coll o'r 60'au ar 70'au' yw'r wefan yn ôl disgrifiad yr awdur. Ma'r llunie'n wych - dwi'n hoff iawn o hen gardie post, yn enwedig rhai diflas. Yr un math o lunie i nhw a sydd yn y llyfre Boring Postcards a olygwyd gan y ffotograffydd Martin Parr. Mi oedd Parr yn bach o arwr i mi pan o ni'n dechre mas fel ffotograffydd, ond wedi i gyfarfod e cwpwl o weithie a chal trafod i waith ffotograffiaeth e ma fe'n llai o Dduw ffotograffig bellach. Ma'n werth cal pip ar i wefan e - ddechreuodd e fel ffotograffydd yn Butlin's yn i arddege a ma fe bellach yn agos at y ffotograffydd mwya cyfoethog ym Mhrydain. Fe guradodd e arddangosfa o gardie post o Butlins 'fyd gan y ffotograffydd John Hinde, sy'n werth i gweld.
Gol: Clicwch ar links y boi ar i flog - Old Haunts a Santa & Me, hen lunie o 'Dolig a Nos Galan Gaeaf - dwi'n ffan mawr o ffotograffiaeth bersonol, y syniad o'r snapshot ac o 'found photographs', ma gen i gasgliad reit fawr fy hun o lunie dwi di prynu mewn siope ail law. Pan fydd cartref solid gen i, yn hytrach na'r garafan dwi'n siwr o ddechre gwefan i bostio llunie felly.
01/09/2005
Dwi'n wir 'white trash' nawr.
Neithiwr fues i mas yn saethu, dwi'm yn rhy hoff o ynne o gwbl, ma nhw mor beryglus. Ma dryll .22 da fi, anrheg 'Dolig yn bymtheg mlwydd oed ond dyw hwnna ddim yn yr un cae a shotgun. Mi oedd cymydog di bod ar spending spree bach wsnos hyn, mi oedd e di prynu dau ddryll - Beretta twelve bore newydd(gweler y llun) a hen wn double barrel four-ten. Er y mod i'm yn hoff o saethu fues i allan am awr fach yn saethu dau llond bocs o getrys at hen dins paent, bwcedi a hen ddrws. Ma'n rhaid dweud y mod i'n teimlo'n rêl hic nawr, mi oedd y nghymydog hyd yn oed di bod allan yn saethu wiwerod yr un dydd. Bob diwrnod, dwi'n cymryd cam yn nes at fod yn rhan o fywyd run fath a'r ffilm Deliverance. Ma tymor saethu hwyaid yn dechre mis hyn...
Subscribe to:
Posts (Atom)