Dechrau rant.
Mi o ni'n hollol nacyrd ddoe(mi oedd yn lyged bach i'n dechrau cau am hanner di naw) ond mi wnes i'n siwr y mod i ar ddihun i wylio Y Lleill ar S4C digidol gan fod ffilmiau Cymraeg mor brin. Mi o ni'n reit gyffrous yn disgwyl hon, ond do ni'm yn disgwyl gweld campwaith wedi darllen yr amryw adolygiadau ar y we.
Siom ges i.
Dwi'm am ladd ar y ffilm yn gyfangwbl, does dim pwynt gwneud hynny, ma'n rhaid cael rhyw fath o feirniadaeth adeiladol. Dwy brif gwyn sydd gen i. Y gynta yw'r dechneg.
Ffotograffiaeth.
Fel ffotograffydd ma ffilm sydd a ffotograffiaeth dda yn fy nal bob tro, mi oedd hon yn andros o wael. Mond llond dwrn o shots llydan oedd i'r ffilm i gyd. Os ych chi am ddefnyddio Blaenau Ffestiniog a'r llwydni fel rhan o'r ffilm wel gwnewch y gore y gallwch chi. Mi oedd na un olygfa sinematig hyfryd wrth i brif ganwr y band gerdded o'r chwarel lawr tuag at y dre, heblaw am hon does na ddim unrhywbeth arall yn sefyll allan. Dwi'n dweud celwydd, ma'r tracking shots uffernol drwy'r ffens metal ar y dechrau yn aros yn y cof, ond am y rhesyme anghywir.
Actio.
Da gweld llwyth o wynebau newydd ond ma'n rhaid ar dalent i actio'n naturiol. Yn anffodus mi oedd y gwaith bach yn llafurus ar ddeialog yn annaturiol. Ai ond fi oedd yn meddwl 'Be ffwc?' wedi'r ddadl ynghlyn a'r iaith yn y dafarn rhwng tri aelod Cymuned(?). Man a man i bod nhw'n darllen i llinellau.
Stori/Sgript.
Beth yn union oedd pwrpas y ffilm? Mi oedd hi'n gymysglyd tost, y stori dros y lle i gyd ac i fod yn onest erbyn tua 20munund i fewn i'r ffilm mi o ni di diflasu. Mi oedd yna elfennau da i'r sgript ond mi oedd angen gwaith, tase hon yn ffilm fasnachol mi fuase yna waith datblygu mawr cyn iddi ddod i'r sgrin.
Y Teitlau.
A gafodd rhain ei cynhyrchu ar BBC Micro? Dwi'n gallu deall pam y defnyddir teitlau syml, ma rhai Woody Allen bob tro'n effeithiol a chwaethus ond wir mi oedd rhain yn waith pum munud ar y cyfrifiadur.
Ail gwyn (ac i fod yn onest cwyn am ffilm yng Nghymru yw hon yn fwy na dim).
$4C
Gyda prinder mawr o ffilmiau Cymraeg ma na ddisgwyl bod y rhai sydd yn cael ei cynhyrchu o'r radd flaena. I fod yn hollol onest, doedd y ffilm yma ddim yn ddigon da. Fel arianydd ma dyletswydd ar S4C i lywio cynhyrchiad, y nhw wedi'r cwbl sydd â'r gair ola. Y nhw ddylse wedi mynnu gwaith ar y sgript, fel Cynhyrchwyr Gweithredol(Exec Prod) ma na ddyletswydd i bwyso ar y cynhyrchiad, ma'n siwr ei bod yn gweld y rushes felly ma modd cael syniad o beth fydd ffilm yn y diwedd. Ond y mhrif gwyn i yw pam taw hon oedd y sgript gaeth ei dewis i'w gwneud? Ma ffilmiau yn y Gymraeg yn bethau prin, mi o ni o dan yr argraff taw cyllid oedd y rheswm am hynny ond dwi'n dechrau meddwl taw storiau sy'n brin. Ai hon oedd y sgript orau oedd gan S4C yn ei thyrau eifory? Oes rhaid cael ffilm am y SRG? Am yr iaith a phiwritaniaid yr iaith? Ry ni'n gynulledifa aeddfed, beth am storiau diddorol am y natur ddynol? Ma pob cenedl arall yn y byd yn medru cynhyrchu ffilmiau o'r fath. Ry ni'n rhy fewnblyg, ma'n rhaid cynhyrchu storiau diddorol am bobol (cariad,colled,twyll,trasiedi a.y.y.b.) yn yr iaith Gymraeg nid am yr iaith Gymraeg. Ma na fodd i ffilm lwyddiannus Gymraeg gael ei gweld drwy'r byd ond mi wneuth hyn byth ddigwydd heb storiau da.
Dwi di diflasu ar rantio erbyn hyn. Digon di ddweud nawr, dwi ddim yn gwningen hapus.
Diwedd rant.
20/07/2007
09/07/2007
Y Parchedig Gary Wise.
Ma'n neis i weld dau sylw ar y postyn bach diwetha, ma'n profi bod na bobol mas wedi i fi fod yn y diffeithwch am gy-hyd.
Meddwl nodi blog bach newydd o ni heddi, ma ffrind da i mi wedi dechrau ar gwrs newydd animeiddio gyda Cyfle a ma fe di cael ei lusgo i mewn i'r ganrif newydd a di dechrau blog. Fe gyflwynir i chi y Parchedig Gary Wise (ma fe di ei ordeinio gan yr Universal Life Church).
Meddwl nodi blog bach newydd o ni heddi, ma ffrind da i mi wedi dechrau ar gwrs newydd animeiddio gyda Cyfle a ma fe di cael ei lusgo i mewn i'r ganrif newydd a di dechrau blog. Fe gyflwynir i chi y Parchedig Gary Wise (ma fe di ei ordeinio gan yr Universal Life Church).
29/06/2007
Oes na bobol?
24/11/2006
Hey cowboy!
Dwi'n teimlo fel crwt bach direidus pum mlwydd oed ar hyn o bryd. Fe dreulies i awr fach yn gwneud y 'collage' yma allan o doriadau o gylchgrawn Hello. Pam y clywaf chi'n gofyn, wel mi oedd isie gwneud carden benblwydd arna i a dwi'n hollol sgint ar hyn o bryd felly co fi'n galw ar Dduwie Blue Peter i ddangos y ffordd i mi. Mi oedd na fwy y tu fewn hefyd (gan gynnwys Des Lynham mewn bikini, mmmm neis).
16/11/2006
14/11/2006
Tân i Tesco
Mi brynodd 'y nghariad y llyfr Shopped, i mi ar y Mhenblwydd. Llyfr wnes i fwynhau yn fawr ond llyfr ma hi'n dyfaru prynu i mi nawr. Sôn ma fe am bwer yr archfarchnadoedd mawrion a'r dulliau ma nhw'n ddefnyddio. Mi oedd e'n agoriad llygad mawr i fi - dwi'n un sy'n hoff iawn o'r ddefod o fynd i siopa am fwyd. Ma fe'n ffordd i fi 'de-stressio', cymryd fy amser gan edrych ar yr holl gynhyrch sydd ar gael. Rhai wsnose nôl fues i i Tesco yn Fforestfach, Abertawe, ma'r lle'n anferth. Daeth diwedd ar y carma siopa bwyd yn y fan a'r lle (dwi di bod yn y Tesco yma ddegau o weithiau o'r blaen ond mi ges i rhyw fath o epiffany). Mi adawes i'r fasged lawn yn y man a mas o'r siop a fi. Wsnos diwetha mi agorodd siôp enfawr newydd Tesco yng Nghaerfyrddin, hoelen arall yn arch y siopau bychain. Dwi am weld am ba hyd y galla i fynd heb orfod mynd ar gyfyl y siopau mawrion. Dwi di llwyddo yn reit dda hyd yn hyn. Ma hi'n reit anodd y dyddiau ma i siopa ond yn eich siopau lleol, yn enwedig gan y mod i di arfer gyda'r dewis eang sydd ar gael yn archfarchnadoedd. Hyd yn hyn ma pethau'n mynd yn dda - dwi di bod yn prynu da'r siôp fara leol a'r cigydd (er mi o ni'n gwneud hynny cyn nawr), ry ni'n byw ar lysiau cartre a mi brynes i lond bocs o afalu o berllan tra yn Worcester penwythnos diwetha. Mi fydd yn rhaid i mi fynd i archfarchnad rhywbryd, byse mond defnyddio rhywle fel y Co-op yn iawn, chi'n feddwl?
02/11/2006
Llunie Newydd!!!
Ma llunie newydd o'r beudy gen i ar y nghyfri Fflicr i (o'r diwedd). Gaethon ni bach o ddamwen bore 'ma yn y garafan - fe aeth y boiler dŵr twym ar dân (dyna'r ail dân i ni gael yn y garafan o fewn 2 flynedd). Felly ma cwpwl o wsnose da ni nawr heb ddŵr twym - nôl i ferwi tegell a chael cawod oer tan fod y gwres a'r dŵr twym yn gweithio yn y tŷ. Dwi'n gweld ni'n symud fewn i un stafell yn y tŷ o fewn cwpwl o wsnose a byw yna'n gyfan gwbwl - ma'r nwy i fewn da ni a mond deuddydd sydd ar ôl gyda'r plymwr i weithio, ond does dim trydan gyda ni 'to - felly mi fydd cwpwl o wsnose i aros i'r golau weithio.
Subscribe to:
Posts (Atom)