28/02/2005

Blogio Mp3'au - Blydi Marvellous.

Dwi'm am wneud habit o hyn ond dwi newydd ffeindio linc oddi ar rhyw flog Mp3 o gasgliad bach o ganeuon. Ma hi'n werth i chlywed, rhyw fath o 'soundtrack' cynnar i'r haf - cwpwl o ganeuon gret upbeat: T-Shirt Weather - The Lucksmiths, I'm a Cuckoo - Belle & Sebastian, Kelly Nicholl - The Salteens a tiwn fach hyfryd gan Architecture in Helsinki. Ma nhw oll ar gael yma.

Oes na bobol?

Dwi di bod yn reit dawel yr wsnose diwetha, brysur iawn yn gwaith a digon i'w wneud adre. Ma'r nosweithi yn dechre goleuo a ma na fwy o waith i'w wneud ar y ty ac yn yr ardd. Ma gen i gynllunie mawr ar waith, acer a hanner o dir yn cal i throi yn ardd ar radd fawr - 1/4 acer yn winllan(ymhen 2/3 blynedd), 1/2 o berllan (i'w phlannu gaeaf nesa gobeithio), 1/4 acer o ffrwyth meddal(falle flwyddyn nesa) a 1/2 acer i lysie, y shed a'r polytunnel (i'w dechre eleni). Dwi fel tase fi'n meddwl y mod i'n cymryd gormod ymlaen rywsut ond dyfal donc a mi fydd digon o lysie da fi i borthi'r pum mil. O ran darllen, araf iawn dwi ar hyn o bryd - wedi darllen yr ail o'r llyfre am Aber - Last Tango in Aberystwyth a mi wnes i weld e cystal a'r gynta (hiwmor syml ysgafn a rhwydd i'w ddarllen). Ynghanol darllen Travels With Charley gan John Steinbeck fyd (llyfyr hollol wych, ma'r sylwade ma Steinbeck yn wneud am ddirywiad diwylliant cefn gwlad America yng nghanol yr 20fed ganrif yn hollol berthnasol i ni'r Cymru heddiw) a 'di prynu The Doors of Perception gan Aldous Huxley i'w ddarllen nesa. O ran ffilmie dwi di gweld sawl un fach dda'n ddiweddar Virgin Suicides, Crazy/Beautiful (Kirsten Dunst yn un o'm hoff eye-candy), Elephant(oedd jyst yn hollol hollol wych yn y marn i - ma hi lawr ar y restr i'w brynu), Bully (dwi'm yn ffan o Larry Clark, dodd hi ddim yn ffilm wych ond dwi'n falch y mod i di gweld hi) ag yn ola Resurrection Man a Trauma, dwy o ffilmie y Cyfarwyddwr Cymraeg Marc Evans. Dwi'n ffan enfawr o House of America a fe wnes i wir fwynhau Resurrection Man(ma i wreiddie cynnar e’n gweithio ar ddrama i deledu yn amlwg yn y steil) ond mi o ni’n gweld Trauma yn reit llipa – wnath y wedjen enjoio fe(ond dwi’m yn siŵr os taw’r ffilm nath hi lico neu jyst Colin Firth?).

08/02/2005

Gashlycrumb Tinies - Edward Gorey

Newydd fod yn cal pip ar Amazon a mi ddes i ar draws llyfyr bach wnes i brynu flynyddoedd nol ond dwi'm dwi gweld e ers amser. Llyfr bychan iawn gan y darlunydd Edward Gorey, rhyw fath o A i Z o ffyrdd wnath plant bach farw yw'r Gashlycrumb Tinies, ac er i fod e'n dywyll iawn ma na hiwmor i'r llyfyr. Ma'r llyfyr ar gael i'w weld ar y we, os am bip cerwch yma.

07/02/2005

Dawnsio yng Nghaerdydd

Wel am wsnos brysur, nosweth mas yng Nghaerdydd i Pictiwrs, trip cloi i briodas yn Llunden Ddydd Mercher a diwrnod i'w gofio Ddydd Sadwrn gyda'r gem. Dwi di llwyr ymladd, bai y cibab ges i nos Sadwrn yw e yn fy marn i nid y 10 peint a'r lli o shots fues i'n yfed. Dwi'n edrych mlan yn fawr nawr at benwythnos nesa, gem fach yn erbyn yr Eidal a cyfle i ddal lan ar y cwsg. Neis oedd cal mynd i Glwb Ifor Bach i wylio'r gem Ddydd Sadwrn unweth yn rhagor, y tro diwetha fues i na i weld gem oedd 1999 yn erbyn Lloegr! Gan y mod i di bod yn y ddinas ddrwg gyment wsnos ma dwi am bostio cerdd fach ddifyr o lyfr 'Cerddi Caerdydd'.

Rhaid Peidio Dawnsio Yng Nghaerdydd

Rhaid peidio dawnsio yng Nghaerdydd
rhwng wyth a deg y bore:
mae camerau yr Heddlu Cudd
a'r Cyngor am y gore
yn edrych mas i weld pwy sydd
yn beiddio torri'r rheol
na chaiff neb ddawnsio yng Nghaerdydd
ar stryd na pharc na heol.

Mae dawnsio wedi deg o'r gloch
yn weithred a gyfyngir
i gwarter awr mewn 'sgidiau coch
mewn mannau lle'r hybryngir
y dawnswyr iddynt foch ym moch,
heb oddef stranc na neidio,
ac erbyn un ar ddeg or gloch
rhaid i bob dawnsio beidio.

Ond ambell Chwefror ar ddydd Iau,
pan fydd y niwl a'r barrug
yn fwgwd am y camerau
fel bo'r swyddogion sarrug
yn swatio'n gynnes yn eu ffau
gan ddal diodydd poethion
mae'r stryd yn llawn o naw tan ddau
o ddawns y sodlau noethion

Emyr Lewis