31/10/2005

Blogio sloppy.



Flin da fi, ma llwyth o esgusodion da fi am beidio blogio ond dwi'm am ych diflasu chi da nhw, ma'n ddigon i ddweud y mod i'n brysur eithriadol. Ynghanol darllen llyfr Truman Capote 'In Cold Blood' a'n gobeithio i gwpla fe cyn ddeith y ffilm Capote allan, ma'r wefan 'offisial' yn werth i gweld. PSH (un o'm hoff actorion) yn chwarae rhan Capote, ma'r llais ar y wefan/cart(trailer) yn hala iasau oer lawr y nghefn.

Welodd rhywun raglen newydd Gordon Ramsey (F-Word)? Wel os do fe, drues i wneud y gymysgedd yna o friwsion bara, parsley, a llwyth o berlysie ond doedd y mriwsion i ddim tebyg i'r lliw gwyrdd 'radioactive' oedd da fe. Nodyn i'r plantos: ma teledu'n dweud celwydd (dyw nghwcan i byth yn edrych yr un peth a'r teledu ta beth). Meddwl cadw twrciod flwyddyn nesa.

Ma pum hwyaden newydd da ni fyd. Cywiriad, mi oedd na bum, ma un yn y mola i. Fuon ni'n ddigon ffodus i gael pum hwyaden gan gymydog, mi fydd y pedwar arall yn y rhewgell penwythnos nesa.



Dwi'n addicted i More4, sianel newydd ddigidol Ch4. Yn yr wsnose diwetha dwi di cael bloneg o raglenni dogfennol, dramau ond yn bwysicach cyfle i ail wylio'r cyfresi o Grand Designs. Ma'n rhaid dweud y mod i di bod yn wyliwr ffyddlon o'r gyfres yma o'r dechre, un o'm hoff raglenni (dwi'm cweit mor wael a phrynu'r cylchgronne a ballu a'r holl spin offs, ond dwi'n reit addicted), gwrddes i Kevin McCloud llynedd yn Llandeilo (mi o ni fel merch ysgol yn cwrdd a Take That), ma fe'n lot talach yn y cig-fyd ond yn foi reit neis. Ma siop newydd da fe, gwefan bach yn gach gan feddwl taw stwff 'designer' ma nhw'n werthu, yma.

Os ych chi di cyrraedd gwaelod y postyn bach 'ma, ma hi'n amlwg taw 'bod yn brysur' yn gwylio'r telly-bocs dwi di bod yr wysnose diwetha, ffor shem.

10 comments:

cridlyn said...

Brandt!

Rhys Wynne said...

Dwi'n eitha hoffi Grand Designs. Welaist ti'r un diwethaf gyda'r Tŷ allan o goed? Methais i'r dangosiad cyntaf ac ond gweld pwt o'r ail-ddangosiad yn anffodus:

http://www.channel4.com/4homes/ontv/grand-designs/houses/S/sussex_woodman.html

cridlyn said...

Wel y jiw, jiw. Ife ti sy'n cynnig yr uchod, Blog Heb Enw, neu ife Rhys?

Rhys Wynne said...

Sori, doeddwn i heb fewngofnodi'n iawn.

Dewch draw bois i weld llyniau ohonaf yn plicio tatws yn borcyn. Baeddwch eich allweddellau!

Chicken Legs, Twm and The Kid said...

Jiw, ma'r tato na'n edrych yn ffein, Rhys. Dwi'n reit impressed da'r tattoo 'na sydd 'da ti fyd - dyw'r llunie ddim mor glir a hynny, ai Dolly Parton yw e fod ynte Jordan?

Rhys Wynne said...

Naci, Jenny Ogwen. Penderfynnais gael tatw ohoni ar foch fy nhin fel anrheg pen-blwydd 18 oed gan mam.

Chicken Legs, Twm and The Kid said...

Dosbarth, Jenny Ogwen. Nawr bo ti di dweud ma fe'n reit amlwg, ma'n rhaid fod dy fam yn browd iawn, ware teg.

Chicken Legs, Twm and The Kid said...

Blydi hell, ma hyd yn oed Santa i hun yn spamio mlog i nawr. Gwd styff.

Rhys Wynne said...

Mi oeddwn am awgrymmu'r teclyn 'verifier' gan blogger i atal sbamwyr, ond mae'n ormod o hwyl darllen pwy sy'n sbamio dy flog.

Anonymous said...

Dank f�r Haben eines blog, das dieses miteinschlie�t.Truly, Oretha criminal defense lawyers Southern California