26/08/2005

MOBA



Dreulies i flynyddoedd yn astudio celf a dwi'n reit wael yn tynnu llun i ddweud y gwir. Gwneud Celf er mwyn cael gwneud ffotograffiaeth wnes i fwya a gan i fod e'n cael i gyfri fel bach o bwnc hawdd. Newydd ddod ar draws gwefan MOBA - Museum of Bad Art. Gobeithio y byddai byth cynddrwg a rhain, be ffwc ma pobol yn wneud yn gwastraffu i hamser a'i harian yn cynhyrchu'r hyllderau 'ma!

MOBA

6 comments:

Nwdls said...

Ma hwnna'n ffantastic! Mae gennai dri llun o luniau oedd yn ein gwesty ym Mhrâg gynharach yn y flwyddyn...clowns a chawod o law gwaed. Anghygoel.

Nwdls said...

DWi'n arbennig o hoff o Peter The Kitty. Mae gen i un tebyg adra wnaeth fy chwaer i ddwyn o westy yn Llanrwst. Ddangosai hwnna cyn hir hefyd.

cridlyn said...

He! Diolch am y ddolen! Y darn licen i weld yn cael lle haeddiannol yn yr amgueddfa yw darn weles i mewn tafarn yn Hackney, y diwrnod nes i ddychwelyd o UDA. Darlun wedi'i baentio o Superman, gyda bubble meddwl yn dweud "it's been done before, but does that matter?"

O'dd e mor gach, o'n i'n pisho'n hunan.

Anonymous said...

Nice site!
[url=http://pjdkadrd.com/cuke/kbum.html]My homepage[/url] | [url=http://sjvbvqek.com/qixu/theq.html]Cool site[/url]

Anonymous said...

Nice site!
My homepage | Please visit

Anonymous said...

Good design!
http://pjdkadrd.com/cuke/kbum.html | http://kerdoeoh.com/goal/bogs.html